Ceisiwn drefnu gwasanaeth effeithiol drwy’r amser ond os aiff unrhyw beth o’i le rydym yn croesawu eich sylwadau er mwyn gwella’n gwasanaeth. Os oes gennych reswm i wneud cwyn dylwch gysylltu a rheolwr y feddygfa trwy ffôn, e-bost neu drwy lythyr.
Rydym ond yn derbyn cwynion ysgrifenedig yn unig, ac os oes angen help arnoch i ysgrifennu eich cwyn rydym yn barod i helpu. Os ydych am gael ffrind neu aelod o’r teulu i ysgrifennu eich cwyn ar eich rhan, mae’n rhaid llofnodi er mwyn rhoi eich caniatad.
Ceisiwch rhoi gymaint o fanylion a phosib ynghylch y cwyn, a’r ymateb a hoffwch ei dderbyn.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am ein proses gwynion, cysylltwch â rheolwr y feddygfa ac wedyn bydd modd eich darparu gyda chopi o’n polisi cwynion.
Byddem hefyd yn hoffi clywed gan gleifion pan fyddwn wedi gwneud gwaith arbennig o dda!