Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr Meddygol

Mae’r Practis yn darparu addysg meddygol i fyfyrwyr israddedig ac ô-raddedig.

Rydym yn dysgu Myfyrwyr Meddygol o Brifysgolion Abertawe, Manceinion, Caerdydd a Bangor. Rydym hefyd yn dysgu myfyrwyr Cydymaith Meddygol o Brifysgolion Abertawe a Bangor. Mae’r myfyrwyr yn y Feddygfa am y mwyafrif o’r misoedd y flwyddyn, tra’n gweithio o dan oruchwyliaeth y Meddyg Teulu.

Rydym yn ddiolchgar i ein cleifion sydd yn cytuno a chydsynio i gael apwyntiad gyda’r myfyrwyr cyn gweld y Meddyg Teulu, gan bod hyn yn rhoi profiad gwerthfawr i wella eu sgiliau clinigol.  Cofiwch adael aelod o staff wybod os nad ydych eisiau gweld myfyriwr.

Rydym yn falch o fod yn gysylltiedig â dysgu Blwyddyn Sylfaen Cyntaf (Meddygon Iau). Maent yn Feddygon Newydd gymwysedig sydd gyda ni un diwrnod yr wythnos am gyfnod o 12 mis fel rhan o LIFT; Hyfforddiant Sylfaenol Hydredol Integredig. Mae ganddom un Meddyg sydd yn gweithio yn y Feddygfa ar Ddydd Iau, ac un Meddyg ar Ddydd Gwener. Mi fydd pob claf sydd yn cael eu gweld gan Feddyg Iau yn cael adolygiad gan Meddyg Teulu cymwysiedig.