Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a Chefnogaeth

Cyngor a Chefnogaeth

 

Newid Cyfeiriad

Os byddwch yn newid enw, cyfeiriad neu rif ffôn, rhowch wybod i staff y dderbynfa drwy ffonio neu ysgrifennu atom. Os ydych yn symud y tu allan i ardal y feddygfa, bydd angen i chi ddod o hyd i feddyfa yn eich ardal newydd.

Mynediad Anabl

Mae yna fynediad anabl addas i rhan fwyaf  ystafelloedd ym Mhorthaethwy, a bob ystafell yn Y Felinheli. Mae yna gadair olwyn yn y ddau safle, mi all hyn helpu os oes ydych yn cael trafferth i drafeulio o'r car i'r feddygfa.

Mae ganddom offer system clyw yn y ddau safle.

Mae'n bosib ysgrifennu gwybodaeth i gleifion mewn ffont mawr drwy roi cais yn y dderbynfa.

Mae man parcio i'r anabl ar gael yn y ddwy feddygfa.

Mae gan Porthaethwy ramp a drysau llydan ier mwyn cadair olwyn.