Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau

Presgripsiwn

 

Gadewch eich cais am ail-bresgripsiwn yn y dderbynfa, drwy bostio, gyrru facs, neu ar ein gwasanaeth ar y we. Ticiwch yr eitemau ar adran ochr dde’r ffurflen bregsripsiwn flaenorol. Bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu 72 awr ar ôl rhoi eich archeb i fewn. Os yw’n well gennych, gallwn ei bostio’n ôl i chi (bydd rhaid i chi ddarparu amlen gyda chyfeiriad a stamp arni).

Peidiwch a archebu mwy na 5 diwrnod o flaen llaw.

Rydym yn awyddus i sicrhau y caiff cleifion sydd a phroblemau meddygol parhaus eu monitro’n rheolaidd. Os yw’r dyddiad ar gyfer eich adolygiad nesaf gyda’r meddyg neu’r nyrs wedi bod, gofynnir i chi wneud apwyntiad arall.

Fe fydd meddygfa Porthaethwy yn gyrru pob presgripsiwn i'r fferyllfa yn y dref os and ydych yn dweud wrthym yn wahanol.