Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau

Sut i wneud apwyntiad      

        

Y FELINHELI 01248 670423

PORTHAETHWY 01248 712210

Apwyntiadau

Mae’r apwyntiadau yn cael eu rhyddhau yn ddyddiol, gyda rhai apwyntiadau ar gael o flaen llaw er mwyn cleifion sydd yn cael trafferth cludiant neu sydd angen apwyntiad ar amser penodol. Mae’n rhaid ffonio ar ôl 8:00yb ar y diwrnod i gael unrhyw apwyntiad arall ar yr un diwrnod.

Efallai bydd staff y dderbynfa yn holi am natur y broblem i’ch danfon i’r clinigwr priodol.

Mae’n bosib y bydd rhaid disgwyl yn hirach am apwyntiad os ydych eisiau gweld meddyg penodol oherwydd dim ond ychydig o apwyntiadau o flaen llaw sydd ar gael.

Apwyntiadau Ffôn

Os hoffech drafod mater ar y ffôn gyda’r nyrs neu’r meddyg, cysylltwch gyda’r dderbynfa, ac fe wnawn gysylltu a chi ar ddiwedd y feddygfa.

 

Sut i wneud apwyntiad

BRYS

  • Cysylltwch a’r dderbynfa dros y ffôn a gofynnwch am apwyntiad. Er mwyn i ni eich rhoi gyda’r aelod priodol o staff, mi fyddwn yn gofyn i chi am reswm am yr apwyntiad.

  • O DAN 16 – mi fydd plant o dan 16 sydd a achos brys yn cael cynnig apwyntiad ar yr un diwrnod (dros y ffôn neu wyneb yn wyneb)

  • Mi fydd apwyntiad ar yr un diwrnod yn cael ei gynnig i gleifion sydd angen apwyntiad brys ar ôl cael eu brysbennu gan aelod o staff

O FLAEN LLAW

  • Cysylltwch a’r dderbynfa drwy ffonio, rydym yn gallu cynnig apwyntiadau hyd at 6 wythnos o flaen llaw

  • Defnyddio Fy Iechyd Ar-Lein – os hoffwch gofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein, gofynnwch am bapurau i lenwi yn y dderbynfa. Mi fydd angen prawf adnabod i gofrestru. Mi allwch archebu eich prescriptiwn drwy ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein.

  • Gyrru e-bost i ni, fydd rhaid cofio cynnwys eich enw, dyddiad geni a rhif cyswllt. Mi fyddwn yn ateb eich cais o fewn 5 diwrnod.

 

Cofiwch ffonio y feddygfa os oes angen apwyntiad brys, a dim ond defnyddio e-bost a Fy iechyd Ar-Lein i wneud cais am apwyntiad o flaen llaw.

 

Sut i gysylltu a’r feddygfa i rhoi cais am alwad ffôn o flaen llaw (ddim ar frys)

 

  • Cysylltwch a’r feddygfa dros y ffon a rhoi rheswm am y cais yn fras, mi fydd eich neges yn cael ei pasio ymlaen i'r aelod o staff priodol

  • Gyrru e-bost i Enquiries.W94027@wales.nhs.uk, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys eich enw, dyddiad geni, rhif cyswllt a rheswm bras am eich cais. Mi fyddwn yn ateb eich cais o fewn 5 diwrnod.