Neidio i'r prif gynnwy

Chlinigau a Gwasanaethau

Clinig Nyrs a Cynorthwywydd Gofal Iechyd

Trwy apwyntiad – Pwysau Gwaed, Gorchudd Clwyf, ECG, Ysmygu, Pwysau, Alcohol, Diet, Ymarfer corff ayyb.

 

Salwch Tymor Hir (O dan arweiniad nyrs y practis)

Trwy apwyntiad : Asthma, Clefyd Y Galon, Clefyd Rhwystrol Cronig Yr Ysgyfaint, Clefyd Yr Arennau, Strôc, Ffibriliad Atrїaidd, Gorbwysedd, Epilepsi, Problemau Thyroid, Clefyd Siwgr, Archwiliadau arferol a chyngor gan y meddyg a nyrs y practis ar ffordd o fyw, Technegau, Meddyginiaeth ayyb.

 

Cynllunio Teulu

Trwy Apwyntiad : Cyngor ar atal genhedlu, gallwch wneud cais I gael yr apwyntiad hefo nyrs y practis neu meddyg sydd yn fenyw. Allwn ddarparu condomau am ddim.

 

Clinig Coil

Trwy Apwyntiad : Mae’r clinig yn cael ei redeg yn y Feddygfa yn Y Felinheli fel arfer.

 

Gofal Cyn-geni

Trwy Apwyntiad : Apwyntiadau cyn-geni gyda’n bydwraig gymwysiedig.

 

Clinig Plant

Trwy Apwyntiad : Clinig cyngor a phwyso eich babi, brechiadau ar gyfer plant hyd at 5 oed.

 

Brechlyn y Ffliw a Niwmococol

Er mwyn bod yn rhydd rhag ffliw, mae angen brechlyn blynyddol. Mae’n bosib ymgymryd pan fydd brechlyn ar gael, sef tua mis Hydref bob blwyddyn. Mae’r llywodraeth yn cynghori pob claf gyda chlefyd y galon, problemau anadlu, clefyd siwgr, neu unrhyw salwch sy’n lleihau ymwrthiant i dderbyn brechlyn, a phob claf dros 65 oed. Mae’n ddiogel ac yn llawer llai o ofid na’r ffliw.

Ffoniwch y dderbynfa am fwy o fanylion yn ystod tymor y ffliw. Mae’r frechiad Niwmococol yn para oes fel arfer ac ond un pigiad sydd angen i bawb dros 65 i arbed niwmonia. Fedrwch gymryd unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ffoniwch y dderbynfa am fwy o fanylion.

 

Brechiadau

Trwy Apwyntiad : Brechiadau arferol a teithio ar gael ar gyfer cleifion o bob oed. GOfynnwch am fwy o wybodaeth yn y dderbynfa.

 

Ceg Y Groth

Trwy Apwyntiad : Mae gennym glinig dwy waith yr wythnos gyda nyrs y practis.

 

Clinig Tynnu Dafaden/Man Llawdriniaeth

Trwy Apwyntiad : Gallwch wneud apwyntiad am hyn yn Y Felinheli yn dilyn asesiad perthnasol gyda un o’r meddygon, mae’n bosib y cynhelir rhai mathau o fan lawdriniaeth.

 

Ffisiotherapi

Unwaith yr wythnos yn Y Felinheli. Trwy apwyntiad yn unig, gofynnwch am fwy o wybodaeth yn y dderbynfa.

 

Clinig Clyw

Unwaith yr wythnos yn Y Felinheli. Trwy apwyntiad yn unig, gofynnwch am fwy o wybodaeth yn y dderbynfa.