Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryderon

Cwynion

Ceisiwn drefnu gwasanaeth effeithiol drwy’r amser ond os aiff unrhyw beth o’i le rydym yn croesawu eich sylwadau er mwyn gwella’n gwasanaeth. Os oes gennych reswm i wneud cwyn dylwch gysylltu a rheolwr y feddygfa trwy ffôn, e-bost neu drwy lythyr.

Rydym ond yn derbyn cwynion ysgrifenedig yn unig, ac os oes angen help arnoch i ysgrifennu eich cwyn rydym yn barod i helpu. Os ydych am gael ffrind neu aelod o’r teulu i ysgrifennu eich cwyn ar eich rhan, mae’n rhaid llofnodi er mwyn rhoi eich caniatad.

Ceisiwch rhoi gymaint o fanylion a phosib ynghylch y cwyn, a’r ymateb a hoffwch ei dderbyn.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am ein proses gwynion, cysylltwch â rheolwr y feddygfa ac wedyn bydd modd eich darparu gyda chopi o’n polisi cwynion.

Byddem hefyd yn hoffi clywed gan gleifion pan fyddwn wedi gwneud gwaith arbennig o dda!