Neidio i'r prif gynnwy

Manylion Practis

 

Cyfeiriad:

Felinheli Health Centre, Rowen, Felinheli, Gwynedd, LL56 4RX

Menai Bridge Surgery, Coronation Road, Menai Bridge, Anglesey, LL59 5BD

Rheolwr y Practis:

Mrs Delyth Owen

Partneriaid Practis:

Dr Aled Morris (Uwch Bartner) a Dr James Rigby

Meddygon Eraill:

Dr Ceri Williams (Benyw)

Dr Tania Scotland (Benyw)

  Dr Amanda Kirrage  (Benyw)

Bwrdd Iechyd:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cefndir y Practis

Mae Meddygfeydd Y Felinheli a Porthaethwy wedi bod yn darparu gofal meddygol i gleifion lleol ers 1967 pan agorwyd y Feddygfa am y tro cyntaf gan Dr Gunter Poeppinghaus ac ei wraig Dr Eirlys Speek. Mi wnaeth nhw gymeryd drosodd Meddygfa Dr Meredydd Vaughan Jones yn Y Felinheli a Meddygfa y diweddar Dr Fisher ym Mhorthaethwy. Mi gafodd y practis ei gymeryd drosodd gan Dr Behman Mali yn 1976, ac yna mi wnaeth Dr Khalid Sali ymuno yn 1980 a Dr Philip White yn 1983. Ers hynny, rydym wedi tyfu, ac yn Bractis sydd a tri partner sydd yn darparu gofal i dros 6500 o gleifion.

Lleolir y practis ar ddau safle (5 milltir ar wahân) bob ochr i’r Fenai sydd yn gwahanu Môn a Gwynedd.

Agorwyd adeilad Newydd Y Felinheli yn Nghorffennaf 2013, ac adeiladwyd y Feddygfa ym Mhorthaethwy yn 1990.

Yn ogystal a gwasanaethau cyffredinol meddygol, mae gan Feddygfa Y Felinheli Ddosbarthfa, a gall cleifion sy’n byw mwy na milltir mewn llinell syth oddi wrth y fferyllfa ddewis cael eu presgripsiwn o’r Feddygfa (fel polisi GIG Cymru).

Lleoliad

Y FELINHELI – Wrth fynd allan o’r pentref o Fangor tuag at Caernarfon, mae yna Eglwys fawr ar eich chwith a safle bws ar y dde. Cymerwch y troad lawr yr allt gyferbyn a’r Eglwys. Mae’r Feddygfa ar eich chwith wrth y llwybr beic.

PORTHAETHWY – Wrth fynd o Borthaethwy am Biwmares, mae angen pasio banc HSBC ar y chwith ac yna cymeryd y troad cyntaf i’r chwith i’r maes parcio ar ddiwedd y stryd fawr. Mae’r feddygfa wedi ei leoli ym mhen y maes parcio.

Dalgylch y Practis

Y FELINHELI – Y Felinheli, Croesfan Griffiths, Bethel, Seion, Llanddeiniolen, Rhiwlas, Pentir, Ffordd Caernarfon – Bangor (gofynnwch wrth staff y dderbynfa), Penrhosgarnedd – Bangor (gofynnwch wrth staff y dderbynfa)

PORTHAETHWY – Porthaethwy, Pentraeth, Llansadwrn (gofynnwch wrth staff y dderbynfa), Llandegfan.