Y FELINHELI 01248 670423
PORTHAETHWY 01248 712210
Apwyntiadau
Mae’r apwyntiadau yn cael eu rhyddhau yn ddyddiol, gyda rhai apwyntiadau ar gael o flaen llaw er mwyn cleifion sydd yn cael trafferth cludiant neu sydd angen apwyntiad ar amser penodol. Mae’n rhaid ffonio ar ôl 8:00yb ar y diwrnod i gael unrhyw apwyntiad arall ar yr un diwrnod.
Efallai bydd staff y dderbynfa yn holi am natur y broblem i’ch danfon i’r clinigwr priodol.
Mae’n bosib y bydd rhaid disgwyl yn hirach am apwyntiad os ydych eisiau gweld meddyg penodol oherwydd dim ond ychydig o apwyntiadau o flaen llaw sydd ar gael.
Apwyntiadau Ffôn
Os hoffech drafod mater ar y ffôn gyda’r nyrs neu’r meddyg, cysylltwch gyda’r dderbynfa, ac fe wnawn gysylltu a chi ar ddiwedd y feddygfa.
Sut i wneud apwyntiad
BRYS
Cysylltwch a’r dderbynfa dros y ffôn a gofynnwch am apwyntiad. Er mwyn i ni eich rhoi gyda’r aelod priodol o staff, mi fyddwn yn gofyn i chi am reswm am yr apwyntiad.
O DAN 16 – mi fydd plant o dan 16 sydd a achos brys yn cael cynnig apwyntiad ar yr un diwrnod (dros y ffôn neu wyneb yn wyneb)
Mi fydd apwyntiad ar yr un diwrnod yn cael ei gynnig i gleifion sydd angen apwyntiad brys ar ôl cael eu brysbennu gan aelod o staff
O FLAEN LLAW
Cysylltwch a’r dderbynfa drwy ffonio, rydym yn gallu cynnig apwyntiadau hyd at 6 wythnos o flaen llaw
Defnyddio Fy Iechyd Ar-Lein – os hoffwch gofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein, gofynnwch am bapurau i lenwi yn y dderbynfa. Mi fydd angen prawf adnabod i gofrestru. Mi allwch archebu eich prescriptiwn drwy ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein.
Gyrru e-bost i ni, fydd rhaid cofio cynnwys eich enw, dyddiad geni a rhif cyswllt. Mi fyddwn yn ateb eich cais o fewn 5 diwrnod.
Cofiwch ffonio y feddygfa os oes angen apwyntiad brys, a dim ond defnyddio e-bost a Fy iechyd Ar-Lein i wneud cais am apwyntiad o flaen llaw.
Sut i gysylltu a’r feddygfa i rhoi cais am alwad ffôn o flaen llaw (ddim ar frys)
Cysylltwch a’r feddygfa dros y ffon a rhoi rheswm am y cais yn fras, mi fydd eich neges yn cael ei pasio ymlaen i'r aelod o staff priodol
Gyrru e-bost i Enquiries.W94027@wales.nhs.uk, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys eich enw, dyddiad geni, rhif cyswllt a rheswm bras am eich cais. Mi fyddwn yn ateb eich cais o fewn 5 diwrnod.