Gwasanaethau Meddygol
WYTHNOS GYNTAF – Yr unig bryd y bydd angen llythyr meddyg arnoch yw pe baech yn methu gweithio am fwy na saith diwrnod. Mi allwch ardystio eich salwch drwy ddefnyddio ffurflen SC2, sydd ar gael gan eich cyflogwr, ar y we neu o’r asiantaeth budd-daliadau.
AR ÔL YR WYTHNOS – Bydd angen nodyn gan eich meddyg. Cysylltwch a’r dderbynfa i drafod ym mhellach gyda aelod o’r tim, efallai y bydd angen apwyntiad gyda un o’r aelodau o’r staff clinigol. Nid ydi’n bosib gwneud nodyn salwch o flaen llaw.
NODYN PREIFAT – Yn anffodus bydd rhai cyflogwyr yn mynnu nodyn yn ystod eich wythnos gyntaf o absenoldeb. Yn y sefyllfa yma gallwn gyflenwi nodyn preifat i chi. Nid yw hyn yn ran o’n dyletswyddau GIG a bydd rhaid gofyn am daliad ar gyfer y math yma o nodyn.
CANLYNIAD PRAWF
Mae’r feddygfa yn derbyn niferoedd o ganlyniadau yn ddyddiol – ni fyddwn yn cysylltu yn uniongyrchol gyda’r canlyniadau, os ydych wedi cael prawf ac eisiau gwybodaeth, a fuasech mor garedig a disgwyl 10 diwrnod cyn cysylltu a’r feddygfa rhwng 11yb - 1yh.
Am BOB canlyniad Pelydr X, rydym yn gofyn i chi wneud apwyntiad gyda’r meddyg a wnaeth ofyn am y prawf.
I sicrhau cyfrinachedd byddwn yn rhyddhau canlyniadau I’r claf yn unig, oni bai eich bod wedi gwneud trefniadau drwy lythyr ysgrifenedig.
Gwasanaeth di-GIG
Nid yw’r GIG yn talu am rai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae rhain yn cynnwys nodiadau salwch preifat, ffurflenni yswiriant, ffurflenni canslo gwyliau, adroddiadau meddygol, tystysgrifau addasrwydd i deithio, presgripsiynau preifat, arwydd pasbort a rhai gwasanaethau brechu. Caiff y ffioedd ar gyfer y gwasanaethau hyn, sy’n unol a chanllawiau cymeradwyo cenedlaethol y BMA, eu harddangos yn y feddygfa.