Diben darparu’r wybodaeth preifatrwydd hon
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi, ac eraill weithiau, yn darparu gwybodaeth bersonol i ni. Mae'n nodi pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi a pham rydyn ni'n ei chasglu, sut y gellir defnyddio'r wybodaeth, gyda phwy y gellir ei rhannu a sut y byddwn ni'n ei gwarchod a'i chadw'n gyfrinachol.
Mae'r hysbysiad yn egluro pa hawliau sydd gennych i reoli sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, ein sail gyfreithiol dros ei phrosesu a sut y gallwch gael gafael arni. Rydym hefyd yn esbonio gyda phwy i gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau a sut i gysylltu â nhw.
Meddygfa Y Felinheli a Porthaethwy yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu, oni nodir yn wahanol. Gallwch gysylltu â’r Practis mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dros y ffôn, e-bost a phost. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar ein tudalen we Manylion y Practis.
Cwynion
Os oes gennych bryderon neu ymholiadau am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Practis yn uniongyrchol neu ein Swyddog Diogelu Data yn y lle cyntaf.
Swyddog Diogelu Data
O dan ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU, mae’n ofynnol i’r Practis benodi Swyddog Diogelu Data. Mae’r rôl hon yn hanfodol ar gyfer hwyluso atebolrwydd y Practis a'i gydymffurfiad â gofynion diogelu data.
Swyddog Diogelu Data’r Practis yw:
DCHW Data Protection Officer Support Service,
Digital Health and Care Wales
Information Governance, Data Protection Officer Support Service
4th Floor, Ty Glan-Yr-Afon
21 Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AD
E-bost : DHCWGMPDPO@wales.nhs.uk